Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi curio, fy nghylla wedi gwanhau, rhyw naws crawnllyd yn dyfod yn fynych o'r bledreu, a holl ansawdd natur wedi gwanhau ynof, hyd onid oedd pawb a'm hadwaenent yn dysgwyl fy marwolaeth yn fuan. Ac am danaf fy hun, yr oedd dysgwyliad cryf ynof, yn yr un ffordd; ac yr wyf yn meddwl fod rhyw fesur o nesad at orseddfaingc y gras, a grym i ofyn ac i ddysgwyl trugaredd Duw i fywyd tragywyddol, trwy Grist, yn cael eu rhoddi yn gynnaliaeth im' yn fy nghyfyngder a'm gofidiau. Ond er hyn oll, ac megis heb yn waethaf im' byddai yn fynych, trwy amryw foddion, neu achlysuron, ryw gymhelliad yn fy meddwl, i ddysgwyl estyniad ar fy oes. Trwy y cwbl fy neisyfiad oedd am i'r Arglwydd ogoneddu ei ras ywof, mewn bywyd a marwolaeth, a thrwy farwolaeth yn y pryd a'r modd y gwelai efe yn dda.

Yn y gwanwyn, 1802, trefnodd Rhagluniaeth i foddion meddygol fod er rhyw fesur o linariad i'm poenau, a chryfhad i'm natur wan; heb yr hyn ni buasai dim gobaith rhesymol am iddi allu goddef y meddygwaith o dorri drachefn i'r bledren, &c. os ceid gan y llaw-