Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddyg gynnyg ar y gorchwyl. Ebrill, 20, Efe a ddaeth attaf, gyd â phedwar neu bump o gynnorthwywyr: ond ar ol i bob-peth fel o'r blaen fod yn barod at y gwaith efe a betrusodd ei gyflawni, am na fedrai, â'i offeryn, gyffwrdd â'r garreg, ddim mwy nag o'r blaen. Yr oeddwn i, trwy ei symudiad y'mlaen ac yn ol, filoedd o weithiau, yn gwybod yn dra sicr ei bod yn y bledren, ac yn dirnad hefyd fod ei offeryn ef yn myned heibio iddi; yn ganlynol mi a ddeisyfais arno fyned y'mlaen ar ei orchwyl. Yntau, ar ol peth myfyrdod yn yr achos, a throi ei olwg wedi hynny ar ei gynnorthwywyr (fel un yn dymuno iddynt sylwi ar fy nhystiolaeth a'm deisyfiad) a anturiodd at ei orchwyl. Ni bu efe ddim yn hir cyn teimlo'r garreg; ond bu raid iddo arfer amryw ymgeisiadau, poenus a maith i mi, cyn medru ei chael allan. Cafodd ddau fath o afael ynddi, ond â'i hŷd mwyaf hi yn wynebu'r agen a dorrasai; ac felly yr oedd yn ormod iddo ei chael allan: ond o'r diwedd, pan oeddwn i ar ddiffygio gan barhad y boen a rhediad llawer o waed, ac yntau hefyd mewn peth digalondid, a'r llaw-feddyg pènaf oedd gyd âg ef wedi cilio ymaith (yn sal gan yr olwg) trefnwyd llwydd ar ei ymdrech; cafodd afael