addas ynddi [1] a thynnodd hi allan. Wedi hyn bum mewn ffordd oedd yn tueddu at wellhâd, am ugain niwrnod, neu beth ychwaneg; ond ar un noswaith, yn lled ddisymmwth, ymaflodd poen ddwys ynof, mewn rhan dyner o'r corph yn agos i'r archoll. Galwyd attaf y meddyg oedd yn y dref; ac efe a fu'n ymdrechgar tros amryw oriau, hyd y bore, gan arferu amryw dwym—olchiadau, &c. ond chwanegu yr oedd fy mhoen heb ddim seibiant; yr oedd wedi fy nhaflu i boethder twymyn; ac nid oedd dim argoel y gallasai fy einioes barhau ond am ychydig oriau. Yn y bore, meddyliodd y meddyg am wneyd prawf o wasanaeth gelod, i sugno ymaith y poeth-waed afiach; ond er ymofyn yn y tai y dysgwylid eu bod ynddynt, o fewn tref y. Wyddgrug, nid oeddynt i'w cael. Etto, o'r diwedd, yn agos i'r dref, cafwyd un, a dim ychwaneg; a thrwy'r aingc a'r grym mwy na chyffredin, a roddodd rhagluniaeth yn y dwfrbryfyn gwael hwnw, y bu achubaeth rhyfedd i'm bywyd. Nid oeddwn i ddim mewn amgylchiad i rifo a chadw cyfrif, pa sawl gwaith y bu i'r gele ymlenwi, a chwydu'r gwaed i
- ↑ Yr oedd hon yn pwyso dwy wns a chwarter: y gyntaf yn un wns a thri chwarter.