fynu. Ond y meddyg, ar ol dal sylw a chyfrif, a arwiriodd, ei bod wedi gwnëyd hynny chwech o weithiau olynol, ac mi dybygaf, mewn dwy awr, os nid llai, o amser! Tra yr oedd y gele ar ei gwaith, yr oedd fy mhoen yn lleihau yn raddol; ac erbyn iddi ymlenwi y tro olaf yr oedd fy ngofid dwys wedi troi yn esmwythdra ac ymwared mawr.
Bellach, gweddus oedd, a gweddus yw heddyw, i mi lefain, Pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi? i mi y pechadur duaf a gwaelaf, annheilyngaf o'i blant, ïe, ac i mi y gwas anffyddlonaf a mwyaf anfuddiol o fewn ei dy a'i winllan? Yn ddiau, wrth feddwl am y trugareddau a'r gwaredigaethau aml a rhyfedd a ddangosodd fy Nuw tu ag attaf, ped ystyriwn ond cynnaliaeth bywyd fy nghorph yn unig, a'r gwaredigaethau fu'n amlwg i mi (heb sôn am y rhai nad oes gényf ddirnadaeth am danynt) y mae i mi achos i ryfeddu a chlodfori Duw yr holl ddaear, am ei amynedd maith, ei ddaioni manwl a thyner, ei rhagluniaethau ryfedd, a'i waredigaethau mawrion ac aml, a'm dilynasant hyd yr awr hon. Ac wrth ystyried ond ychydig (hyd hynny mae fy nghyrhaeddiad