mwyaf) am ei ras ymgeleddol, a'i holl drugareddau rhad yn Nghrist, y rhai ni's gallaf lai na bod yn obeithiol am eu cyfraniad arnaf, yr wyf yn wir tan orfod a gorfod melus a hyfryd ydyw, i ddywedyd, Nid i mi, nid i mi, O Arglwydd, ond i'th enw dy hun dod ogoniant. Ond mewn golygiad arnaf fy hun, a'm ffrwythau goreu, neu fy mywyd tra anffrwythlawn yn hytrach, y mae i mi fawr achos i gywilyddio a galaru: O, na buasai, ac O, na byddai i mi etto ddwyn ffrwythau gwell a mwy helaeth o lawer, er clod iddo ef, fy Nghreawdwr, fy Nghynnaliwr, fy Rhagflaenydd, a'm Hachubydd. Etto, oni weddai i mi chwanegu tan olygu a chydnabod fy ngradd isel, Trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf? Iddo ef y Yn mhen o ddeutu saith wythnos, o'r dydd yr aethum dan driniaeth y llaw-feddyg a dynnodd y garreg olaf, yr oeddwn yn gallu rhodio allan; ac yn lled fuan wedi hynny yr oeddwn yn gallu cerdded, a marchogaeth yn ddi-boen, er fod gradd o wendid o ddeutu genau'r bledren, a bod rhyw achlysuron bychain yn peri peth ofn weithiau, am weddillion yn aros, neu
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/63
Gwedd