Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynte am adfywiad, o'm hen ddolur: ond hyd[1] yma achos diolch sy genyf am arbediad. Cyn diwedd Medi, yn y flwyddyn honno, yг oeddwn wedi cael y fraint o deithio cannoedd o filltiroedd, gan lafurio i ryw radd gartref ac oddi cartef yn ngwasanaeth yr Arglwydd: ond fel y nesäodd y gauaf, yr oeddwn yn cael prawf fod fy hen feddalwch yn aros ynof, fel na fedrwn oddef nemawr o dywydd gwlyb nac oer. Yn y mis Medi, 1803, mi aethum trwy gymhelliad fy mrodyr, i bregethu i gynnulleidfa o Gymry yn Llundain. Wedi bod yn eu mysg hwy yn agos i bedwar mis, ac yn pregethu ambell waith hefyd i gynnulleidfa neu ddwy o Saeson (er mor anhawdd ac afrwydd oedd hynny gènyf) mi a ddychwelais adref yn nechreu y gwanwyn canlynol. Erbyn hyn yr oeddwn wedi meddwl am newidiad cyflwr yr ail waith; ac yn mhen ychydig meddyliais y byddai achos neu raid arnaf i newid fy nhrigfan ddaearol hefyd. Am hyn rhaid i'm ddywedyd ychydig.

Yr oeddwn wedi barnu, trwy olygiadau ar fatterion crefyddol a daearol hefyd, na byddai

  1. Tachwedd, 1814, o ddeutu deuddeng mlynedd a hanner ar ol yr ymwared uchod.