Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd ddiwedd fy oes nemawr o achos gènyf, na gogwyddiad ynof, i symud o'r fan lle yr oeddwn, trwy ragluniaeth Duw, a thirion ofal fy ngwraig oedd yn y priddle; ac yr oeddwn wedi cael lle i feddwl nad oedd yr Arglwydd wedi gadael i'm llafur yno fod yn gwbl ofer. Yr oedd, o bryd i bryd, o ddeutu tri ugain o aelodau wedi ymuno â'r gymdeithas fechan oedd yno; ac amryw o honynt yn fy nghyfrif fel eu tad ysprydol. Etto, erbyn hyn yr oedd cryn nifer o honynt wedi ymwahanu, gydâ llawn fodd y corph a minnau hefyd, i ddechreu cymdeithasau bychain mewn dau le gwahanol (Cilcen a Rhosesmor) ereill wedi marw, a rhai wedi ein gadael. Ond amryw achlysuron ereill, na ddylwn eu henwi, oedd wedi effeithio ar, a gogwyddo, fy meddwl i, nes oeddwn wedi barnu mai fy nyledswydd ydoedd chwilio am drigfan arall. Yn hyn yr oeddwn yn gofidio cyfeillion mewn modd na fynaswn; etto, hyd y dydd hwn nid wyf wedi deall fod fy symudiad yn groes i ewyllys yr Arglwydd. Ond am lygredd pechadurus, yn rhy gryf-gynhyrfiol ynof, y mae'n gweddu i mi ei addef gyd a chywilydd a gofid dwys, mewn golygiad ar fy amgylchiad a'm profed-