igaeth y pryd hwnw, megis ar bob prawf a fu arnaf o ddechreu fy ngyrfa hyd yr awr hon.
Tra bum yn y Wyddgrug, cefais y fraint o gyhoeddi y drydedd Ran o Waith Mr. Gurnal, a gyfieithaswn i'r Gymraeg cyn hynny; a bum yn gyfrannog o'r llafur gyd â'r Parch. T. Charles, yn cyhoeddi chwe' Rhan o'r Drysorfa. Yn ganlynol, y mae ynddynt ddwy Bregeth ar 2 Cor. 2. a rhai darnau ereill, o'm hysgrifenwaith.
Yn y mis Mawrth, 1804, aethym i'r 'stâd brïodasol yr ail waith, efo A. M. oedd y pryd hynny yn cartrefu yn mhlwyf Llanelidan, ac yn y Mai canlynol yr oedd ein trigfa yn Nhref Ruthyn. Ond yno, y'mhen llai na blwyddyn, bu iddi hi, trwy anwyd trwm, gael dechreuad nych marwol, ac i minnau gael prawf buan drachefn, o ofid a phrofedigaeth ddwys: ond etto mi ddylwn chwanegu, fod yr un llaw ddoeth ag oedd yn cystuddio, yn rhoi i ni ryw fesur o ras a nerth cyfatebol, i ddyoddef ac ymostwng. Ac yma, mi dybygwn y dylwn grybwyll, mewn diolchgarwch i Dduw, a pharch i'w was ffyddlawn y Parch. T. Charles (sydd yn awr yn gorphwys oddiwrth ei lafur) fod ei ymweliadau a'i lythyrau wedi bod yn yr