amser adfydus hwn, megis hefyd yn fy ngofidiau y blynyddoedd o'r blaen, er cynnaliaeth a dyddanwch neillduol i fy yspryd yn y prawf helbulus oedd arnaf.
Yn yr haf bu rhyw fesur o arwydd gobeithiol, fod awel glan y môr er cryfhâd i'm gwraig: etto yn fuan ar ol ein dychweliad adref, hi a ddihoenodd yn gyflym ac a ymadawodd â'r byd hwn mewn tangnefedd, Awst 14, 1805. Wrth fod llaw yr Arglwydd fel hyn yn fy nghuro, ac yn fy nwys-brofi, mi a feddyliwn ei fod yn peri i mi ddeall mewn rhyw fesur, ei lais ai alwad arnaf, i blygu iddo, a galw arno, heb ddymuno dim yn fwy nag iddo ef fy rheoli, fy nghynnal, fy arwain, a'm dysgu, fel y byddwn yn dyst am ei ras, yn y byd hwn, ac hyd byth. Ond er hyn, achos parhaus oedd, ac sydd gènyf, i alaru a chywilyddio am fy mod cyhyd megis yn ei ysgol ef, ac wedi derbyn cyn lleied o'i addysg, yn enwedig yn y wers dra rheidiol honno, Ymddarostyngwch, &c. Ië, wedi i mi feddwl fy mod yn cael fy nysgu ynddi, megis yn y bore, nid llai fydd fy niffyg o galon i dderbyn yr un addysg, cyn y nos.
Yn y rhan olaf o'r flwyddyn honno, a dechreu y ganlynol, yr wyf yn cofio, fod yr Arglwydd