wedi dangos i mi fy eisiau o galon ymddarostyngol iddo, mewn amryw ffyrdd, a thrwy amryw o'i ragluniaethau, yn ol ei air daionus, Na fyddwch fel march neu ful heb ddeall—Ac a'm llygaid arnat y'th gynghoraf. Yn yr haf cefais y fraint o deithio a llafurio, i radd fwy nag oedd gyffredin i mi, yn ngwaith y weinidogaeth, trwy law dirion Duw yn ei ragluniaeth, tu ag attaf, a llais ei eglwysi yn galw arnaf, er mor anfuddiol yn y gwasanaeth ardderchog.
Hydref 6, 1806, mi a brïodais fy nhrydedd gwraig, M. L. o Lanrwst, a threfnodd yr Arglwydd i ni gael o hynny hyd y pryd hwn (Tach. 1814,) ein cynnal yn mhob modd yn gysurus tan yr iau, er mai nid heb brofedigaethau, yr hyn nid ydyw i'w ddysgwyl yn y byd a'r bywyd hwn. Yn agos i ddiwedd y flwyddyn o'r blaen, ar yr achlysur o fod Sectwyr Arminaidd yn amlhau yn Nghymru (a rhai o honynt yn eu pregethau, a thrwy amryw fân lyfrau, yn drygliwio'n anwireddus yr athrawiaeth a alwant yn Galfiniaeth, ac weithiau yn Antinomiaeth) yr oeddwn trwy annogaeth gan fy mrodyr wedi cyhoeddi Traethodyn byr tan yr enw Drych athrawiaethol, ac wedi addaw Traethawd helaethach ar yr un achos. Yn y