Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai'n, fy ymgais oedd am ddangos y wir athrawiaeth, yn ei gwedd syml ei hunan, yn ol yr Ysgrythyrau, ac yn ol golygiad y wir eglwys, neu y rhan gywiraf o honi, o'r oes Apostolaidd hyd amser y Diwygiad Protestanaidd, ac ar ol hynny. Chwanegais hefyd beth dangosiad o'r anghysonedd tra amlwg ag ef ei hun sydd i'w gael yn amryw o lyfrau y diweddar Mr. J. Wesley. A chan fod y rhai'n wedi cael rhyw fath o atebion gan Mr. O. Davies, bu raid i mi gyhoeddi trydydd llyfryn (sef Sylwadau, &c.) a chwanegiad byr at hynny hefyd. Yr oedd galwad arnaf, (hyd y medrwn ddeall) i, ddal y ddadl hyd gymmaint a hyn o feithder, o herwydd y nifeiri mawrion o ddywediadau disail ac anghywir a gyhoeddodd fy ngwrthwynebwr yn ei atebion. Ond gan fod y pethau a 'sgrifenasom ger bron y rhai a chwennychant eu darllen ni wnaf fi yma ond ardystio hyn yn y modd dwysaf. Yr wyf yn cyhoedd- ddatgan ger bron y byd, ïe, a cher bron y Duw anfeidrol, a'r Barnydd cywir yr wyf yn fuan i ymddangos ger ei fron, na ddarfu i mi erioed, yn y dadleuon hyn, arfer twyll na dichell, na dadlyddiaeth ystrywgar; ond fy mod wedi amddiffyn y gwir, o ran athrawiaeth ac hanes-