Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth mewn modd didwyll, yn ol cyrhaeddiad fy ngwybodaeth.[1] Etto yr wyf yn ammau fy hun, gan feddwl fod poethder yspryd, fel y mae'n rhy debygol, wedi ymgynhyrfu ynof, a'i effeithiau i'w gweled mewn rhai o'm hymadroddion, oddi ar achlysuron trymion ac aml, yn nywediadau y blaid a wrthwynebais. Er yr holl annogiadau annhirion a gefais, yn argraffedig, ac yn mhob modd arall, mae'n debygol y dylaswn arfer addfwynder mwy at fy nghwrthwynebwr, ond fe allai y'nghŷd â llymder mwy at ei gyfeiliornadau mawrion ac enbydus. Yn ngwyneb fy holl golliadau, dymunaf erfyn ar Dduw pob gras am faddeuant a meddyginiaeth. Ac os bydd i ryw-rai gael bendith oddiwrth fy llafur, bydded y gogoniant iddo ef, yr hwn a'i pïau, yn gwbl ac hyd byth.

Yn y flwyddyn 1808, wedi cael argraffwasg, &c. i'm tŷ, mi a gyhoeddais y Bedwaredd Ran o Waith Mr. Gurnal, a Chatecism mwyaf Eglwys Loegr (wedi ei gyfieithu o argraffiad o hono yn y Ladiniaeth) gan ddymuno

  1. Yr ychydig linellau mewn sylw-nod (Drych Athrawiaethol, ty dal. 69.) yn mha rhai y deallais ar ol hynny, fod tafliad tros ben yr hyn oedd wir, mi a'u gelwais yn ol: (Gwel y Rhagymadrodd i'm trydydd Llyfryn.)