Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo fod er budd i'r Cymry, na chawsent olwg arno, hyd y medraf ddeall, erioed o'r blaen.

Yn Ebrill, 1809, nyni a symudasom o Ruthyn, gan ddyfod i anneddu yn Ninbych: ac yn fuan ar ol hyn mi a ddechreuais ar Waith mwy, o ran 'sgrifenu ac argraffu, sef, Hanes y Merthyron yn Lloegr, &c. y Diwygwyr Protestanaidd, a Chrynodeb o Hanes Eglwys Crist. Ac er amryw anhawsderau a phrofedigaethau, cefais y fraint o'i orphen yn Awst, 1813. Ac am hwn, a'r pethau ereill a 'sgrifenais, nid oes gènyf ond eu gorchymyn i'r Arglwydd, a'u gadael at wasanaeth y rhai a'u darllenant. Fy nyben a'm dymuniad ynddynt oedd gwasanaethu a lleshau fy nghyd-wladwyr. Yr Arglwydd o'i anfeidrol ddaioni a faddeuo fy meiau, a'r anmherffeithrwydd sydd ynddynt, ac yn mhob rhan o'm gwaith.

Yr oeddwn, yn Ruthyn, wedi cael y fraint o weled rhyw fesur o gynnydd ar y gynnulleidfa yr oeddwn yn eu mysg; ac ar ol fy symudiad i'r lle hwn, nid yw'r Arglwydd wedi fy ngadael heb ei diriondeb yn fy nilyn, yn hynny, ac aneirif ereill o'i drugareddau; er nad oes i mi yn ddïau ond achos i ymostwng ac ymgywilyddio, wrth edrych ar fy holl waith; neu, ai ni