ddylwn yn hytrach ddywedyd, fy holl ystod o anfuddiolrwydd? Yma mi a ddylwn grybwyll, fod amryw o'm brodyr, a minnau gyd â hwy, wedi bod â'n hymgais er's blwyddyn neu ddwy cyn hyn am weinyddiad yr ordinhad o Fedydd yn y corph, o'r hwn yr ydym yn aelodau, ac am weinyddiad y Swpper sanctaidd yn fwy mynych, ac, os byddai modd, yn fwy cyson o ran amserau. O'r blaen yr oedd ein pobl yn gyffredinol yn arfer bedyddio eu babanod yn Eglwys Loegr, a chryn nifer wedi bod yn arfer cymmuno yno hefyd; ond yr oedd nifer y rhei'ny yn myned lai-lai. Yn ein mysg ni ein hunain yr oedd yr ychydig Eglwyswyr a ymunasant a'r corph, yn gweinyddu'r ordinhad hon, mewn amryw fannau. Ond gan anamled eu nifer, a chan fod y corph hefyd, trwy fawr ddaioni Duw, wedi amlhau yn Nghymru, yr oedd nifeiri o gynnulleidfaoedd heb fod yn gyfranogion o honi, am flwyddyn neu ychwaneg o amser; a chryn nifer hefyd heb ei chael erioed. Fel yr oedd yr achlysuron a'r amgylchiadau hyn yn chwanegu cŵynion y corph, yr oedd rhai Eglwyswyr, oedd yn Dadau enwog yn y corph, yn petruso ac yn methu cydsynio yn hwydd, i ddwyn y'mlaen y cyfnewidiad, a
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/72
Gwedd