Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farnai ereill yn rheidiol;[1] sef, neillduo rhyw nifer o'r pregethwyr ereill, i gynnorthwyo'r Eglwyswyr, a chyflawni anghen yr eglwysi, o ran

  1. Y mae Mr. Jones yn ysgrifenu mewn llythyr at gyfaill ar y matter yma; gan adrodd ei resymau am yr angenrheidrwydd o weinyddiad yr ordinhadau yn y corph, gan ddywedyd, . Cyh.
    " Yr hyn sy'n taro fy meddwl i gyd â grym mawr ydyw cynnwysiad yr ystyriaethau canlynol:
    1. Y mae'r ysgrythyrau yn ymddangos i mi mor eglur a phendant yn gorchymyn yr arferiad o'r ddau Sacrament yn Eglwys Crist hefyd yn amlwg o blaid y gweinyddiad o Swpperyr Arglwydd yn fwy mynych, os nid yn fwy rheolaidd o ran aniser, nag y mae yn cael ei arfer yn ein plith ni.
    2. Nid ydwyf yn gallu galw i gof weled o honof Eglwys weledig yn cael ei darlunio gan neb rhyw ysgrif enydd, ond fel cynnulleidfa, &c. o bobl a chanddynt air Duw yn cael ei gywir bregethu, a'r Sacramentau yn cael eu dyladwy weinydda yn eu plith.
    3. Yr wyf yn sylwi nad yw bedydd, mewn dull cyff redin o ddywëyd, ddim yn cael ei weinyddu yn ein mysg. 4. Bod mewn amryw o'n cymdeithasau lawer o bobl, yn anewyllysgar iawn i gael bedyddio eu plant yn Eglwys Loegr, a chan ei Gweinidogion hi: ymddengys fod yr anewyllysgarwch hwn yn gystal a'r nifer o bobl yn tueddu ato, ar gynnydd yn barhäus; ac am gymmuno yn Eglwys Loegr, nid oes ond ychydig iawn o'n pobl yn tneddu at hynny.
    5. Bod, yn ol pob argoelion, lawer o'n cyd—aelodau yn ddïau yn cael eu dolurio yn eu cydwybodau wrth gael eu gwasgu i fedyddio eu plant yn Eglwys Loegr gan ei gweinidogion aneffröedig, &c,.
    6. Bod amryw yn ceisio'r ordinhad gan Weinidogion o gorph arall, er gyda meddwl anfoddlawn, drwy fwy nag un ystyriaeth.
    7. Bod cymmell neb o'n haelodau i geisio yr un o'r Sacramentau oddi allan i gylch ein Corph ein hunain yn beth na ddylem fod yn enog o hono, gau ei fod yn groes i air Duw, ac i arferiad cyffredinol Eglwysi Duw, yn mhob oes a gwlad..
    Y cyfryw ydyw'r ystyriaethau ag sydd yn taro yn eg. nïol ac yn argyhoeddi fy meddwl i: ac er pan ydwyf yn byw yn y dref hon, y tri olaf (trwy siamplau ag sydd yn phoi peth 'chwaneg o brawf) a wnaethant argraff mwy dwfn ar fy meddwl. Y mae fy ymgais yn fynych wedi bod i fy holi fy hun ac adnabod fy nybenion, gydâ gweddi ar fod i'r Arglwydd fy ngoleuo, fy attal, a'm llywodraethu, rhag i mi gael fy arwain gan un rhyw dueddiad hunanol neu bechadurus, a'm llithio i fod yn achos o ddim aflonyddwch i eglwys Dduw; ac yn awr er fy mod yn teimlo fy hun yn greadur tra llygredig a phech. adurus, ni's gallaf lai na dywedyd, hyd eithaf fy ngwy bodaeth, fod fy amcan yn gywir ac yn onest; y mae'r achos hefyd yn dda ac yn bwysfawr: Os darfu i mi gyfeiliorni mewn cynhyrfiad, defnydd, neu ddull, bydded i'r Arglwydd fy argyhoeddi a'm diwygio.