nulleidfa, ymroddi i fedyddio'r plentyn. Efe a chwanegodd amryw ddadleuon a rhesymau o blaid ei gais, ac yn erbyn myned â'i faban i un gynnulleidfa arall i'w fedyddio. Minnau, wedi dwys-ystyried yr achos, a cheisio erfyn cyfarwyddyd gan yr Arglwydd, a benderfynais, ac a addewais y gwnawn weinyddu'r ordinhad, os. byddai i gorph yr eglwys, neu y gynnulleidfa, fy ngalw i hynny, ar ol cyd-erfyn ar yr Arglwydd am iddo eu cyfarwyddo a'u harwain yn ol ei air a'i ewyllys. Wedi iddynt gyd-gyfarfod, hebof fi, ac ystyried yr achos gyd âg ymbiliau ar Dduw, hwy a hyspysasant im' eu bod oll, hyd at un aelod, oedd mewn gradd o ofn. a phetrusder, yn galw arnaf i wneuthur felly.
Yr oedd yr achos cyn hyn wedi bod gyd â dwysder ar fy meddyliau, ddydd a nos; a thrwy ymarfer a gair Duw a gweddi, yr oeddwn yn ymofyn am addysg ac arweiniad. Wedi i gyfaill neu ddau, oedd yn lled agos atom, fy ngwrthanog gyd â math o ddwysder, os nid poethder hefyd, mi a aethum yn drallodus fy helynt: etto, wrth ystyried eu dadleuon, gar daer-ymbil ger bron yr Arglwydd, yr oedd y clorian yn troi yr un ffordd ag o'r blaen. Yr oeddwn yn deall fy mod yn groes (os nid i or-