deiniad a gorchymyn) etto i arferiad y corph o bobl yr ymunaswn o galon a hwynt: ac y'r oedd yn ddrwg gènyf, ac y mae'n ddrwg gènyf hyd heddyw, dristâu neb o'm brodyr. Ië, yr oedd yn dra gofidus gènyf feddwl am dristau un brawd a thad yn enwedigol; yr hwn yr oedd, ac sydd â'i goffadwriaeth heddyw, yn fwy parchus yn fy meddwl nag ungwr y bu i mi gymdeithas neillduol âg ef ar wyneb y ddaear. Ond trwy y pethau hyn i gyd, myned y'mlaen a wnaethum, neu a fu raid i mi, gan adael y canlyniad yn llaw yr Hollwybodol a'r Hollalluog Dduw. Yr oeddwn yn gorfod meddwl, os oedd efe wedi fy ngalw i bregethu ei air (yr hyn ni's medrwn ei lwyr-ammau) yna, fod ei alwad hwnw, y'nghyd â'r galwad oedd arnaf gan gynnulleidfa Grist'nogaidd, y'nghyd âg amgylchiadau ereill, yn ddigon o alwad arnaf i weinyddu'r ordinhad o Fedydd. Felly, gyd âg ofn a chryndod, a rhyw fesur o ymdaweliad hefyd yn yr Arglwydd, fel yr wyf yn meddwl, mi a anturiais at y gwaith. Yn lled fuan ar ol hyn, darfu i nifer o'm brodyr mewn Cyfarfod Misol, adael neu oddef i'r gynnulleidfa ac i minnau, gael canlyn rhyddid ein cydwybodau, mewn golygiad ar yr ordinhad arall,
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/76
Gwedd