Swpper yr Arglwydd. Yn ganlynol, ni a dderbyniasom y fraint honno, ac a gawsom y mwynhad o honi gyd â gradd o ofn duwiol, llawenydd, a diolchgarwch. Ac, erbyn y cyfarfod chwarterol a ganlynodd, yn y Bala, (Mehefin, 1810) yr oedd yr Arglwydd wedi gogwyddo meddyliau ei was, yr hwn yr oedd gan y corph oll y parch mwyaf, a mwyaf teilwng iddo, a'r ofn mwyaf rhag ei ofidio: ac, er mawr lawenydd i'r brodyr oedd yno yn gynnulledig, efe a ymroddodd yn ewyllysgar a llawen i ddwyn yr amcan y'mlaen mewn modd araf a graddol, fel yr oedd pawb o'r brodyr yn cydfarnu, ei fod yn fwyaf cymhwys.
Yn mhen blwyddyn ar ol hyn, y bu i wyth o honom gael ein neillduo (ar alwad, a dewisiad yr Eglwysi oll, yn ol y drefn sydd i'w gweled yn argraffedig) i weinyddu y ddwy ordinhad sanctaidd ynghŷd â phregethu'r gair, yn mha le bynag y byddai i'r corph, neu ryw gangen o hono, alw am ein gwasanaeth. Bu wedi hyn neillduad cyffelyb ar amryw frodyr yn y Dehau a'r Gogledd.
Ond i ddychwelyd at fy helynt fy hun, yn y flwyddyn 1812, gwelodd yr Arglwydd yn dda i mi gael fy mhrofi mewn modd dwys, trwy achlysur bychan, fel na'm tra derchafid,