Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIANT, &c.

A chofia 'r holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di.—Rhag ymddyrchafu o'th galon, ac anghofio o honot yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed: Yr hwn a'th dywysodd di trwy'r anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirph tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o'r graig gallestr: Yr hwn a'th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn y diwedd.... Deut. 8. 2,-14, 15, 16.

Cofiaf drugareddau'r Arglwydd.... Esay 63. 7.

YR ymofynion canlynol a ddanfonwyd attaf fi, oddiwrth fy anwyl a'm hanrhydeddus Gyfaill, y Parch. T. Charles, o'r Bala.

"Pa bryd, ac y'mha le y'ch ganwyd?—O ba alwad a sefyllfa yr oedd eich Rhïeni?—Pa fath oedd eich dygiad i fynu o'ch mebyd?—Pa bryd, a thrwy ba foddion, yr ymwelodd yr Arglwydd â chwi âg argyhoeddiadau am eich cyflwr fel pechadur colledig?—Pa