onest yn erbyn y gau grefydd, a'm parodrwydd i gyduno â'r Erfyniad cyn belled ag i ddeisyf na roddid iddynt un fraint na swydd, trwy ba un y gallent beryglu y sefydliad Protestanaidd a threfn llywodraethiad y deyrnas: Yna mi a roddais fy llaw wrtho. Oddiwrth hyn ni ddeallais hyd heddyw fod neb deallgar oddi allan i gymdeithasau neillduedig, wedi cymmeryd un gradd o dramgwydd: ond darfu i rai o'r werin anwybodus a chyfeiliornwŷr rhagfarnllyd, ollwng eu tafodau, ac ergydio eu saethau mewn amryw ffyrdd i'm herbyn. Hyn, yr oeddwn yn meddwl y gallaswn ei oddef heb ddigaloni tan y baich: ond wrth weled amryw o'm brodyr yn dangos parodrwydd i daro arnaf, effeithiodd eu hymadroddion arnaf er gofid dwys, a wanhäodd fy natur tros amryw fisoedd: Ië, yn y pummed mis ar ol i'r awel fechan hon ddarfod chwythu oddi allan, yr oedd ei heffeithiau yn fy nghorph bregus, a meddal; fy nghnawd wedi curio, a'm cylla wedi gwanhâu i gryn radd. O'r dechreuad yr oeddwn yn meddwl nad oeddwn yn cael fy ngadael i lettŷa na llochesu digter nae anghariad yn fy mynwes: ac yn fynych mi a feddyliwn fy mod, trwy weddi a myfyrdod am fawredd Duw a
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/80
Gwedd