Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaeledd dyn, yn cael goruchafiaeth ar fy nigalondid ffol a phlentynaidd, Er hyn yr un cawodydd a ddychwelent eilwaith ac eilwaith arnaf. Etto, yn raddol, trwy ddaioni Duw, cafodd fy yspryd ei adnerthu, a'm corph ei gryfhau, Yn yr haf canlynol, gan fod fy ngwaith efo 'sgrifenu Hanes y Merthyron, &c. wedi ei orphen, mi a ymdeithiais fwy i ryw radd, nag a allaswn yn y tymmorau hafol o'r blaen, O, na buaswn, ac na byddwn yn fwy ffyddlawn a ffrwythlawn yn ngwaith y weinidogaeth, ac yn mhob gorchwyl perthynol i winllan a chynauaf fy Arglwydd a'm Hachubydd!

Yn nechreu y flwyddyn ganlynol mi a gyhoeddais lyfryn bychan o Hymnau, &c. gan ddymuno peidio bod yn hollol ddiffrwyth, ond defnyddio mewn ryw fesur, fy nhalent fechan yn y ffordd honno. Yn yr haf a'r cynhauaf, cefais y fraint o deithio mwy na fy rhan gyffredinol yn amryw barthau o'r Gogledd, ac i un Gymmanfa (Llangeitho) yn y Deau. Ond ar fy ffordd yno, cefais y gofid o weled fy anwyl am Parchedig frawd (neu oni ddylwn ddywedyd fy nhad) Mr. Charles mewn gwendid corphorol oedd yn peri achos i ddysgwyl ac ofni clywed y newydd am ei ymddatodiad, tra