Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd agwedd nefolaidd ei yspryd yn achos o fawr lawenydd a diolchgarwch, ac yn galw arnaf fi i ymgywilyddio ac ymostwng ger bron yr Arglwydd. Wedi hyn yn ein cyfarfod Cymmanfaol yn Nghaernarfon, (Medi 29) cefais i a'm brodyr glywed newyddion oedd yn peri gobaith am ei wellhâd, ar ol dyoddef tan law y Meddygon o herwydd dolur neu ysigtod yn y bledren.

Hydref 3, mi a gyrhaeddais i'r Bala (ar fy ffordd adref) a chefais ei weled y prydnhawn hwnw mewn sirioldeb oedd yn peri ynof obaith cryf am ei adferiad tros amser i'r fuchedd wael hon: ond yr oedd ei amser yma, a'i lafur ar gael eu terfynu, a'i enaid wedi cael ei addfedu, i fyned oddi yma, i'r Jerusalem nefol.

Tranoeth, Hydref 4, ar fy nghodiad o'm gwely, cefais y newydd gofidus ei fod yn dra phoenus ar hyd y nos, ac yn debygol o fod yn nesâu i angau. Wedi prysuro i'w dŷ, ac at ochr ei wely, mi a'i gwelais tan arwyddion o wanychiad trwm yn ei wedd a'i lais. Deisyfodd arnaf fyned i weddi; yr hyn a wnaethum, gan geisio ei orchymyn i law ei Brynwr a'i Achubydd, a chan ymbil yn achos ei deulu, ac yn neillduol tros yr eglwysi a'r ardaloedd y buasai