Prawfddarllenwyd y dudalen hon
efe mor fendithiol iddynt yn ei ddyddiau o iechyd, ac yr oedd yn ei farwolaeth yn debygol o'u gadael mor amddifad.
Pan grybwyllais wrtho am fy ofn ar y pen hwn, ei ateb hyderus oedd, fod yr Arglwydd yn llawn alluog i gyfodi ugeiniau, neu filoedd, o weision mwy ffyddlawn, a rhagorach yn mhob ystyr nag efe. Mewn amryw ymadroddion ereill dangosodd ei ffydd a'i ymroddiad i ewyllys yr Arglwydd: a thranoeth o ddeutu'r 'un awr, deg o'r gloch, yr ymadawodd o'r byd â'r geiriau hyn yn ei enau " Y mae noddfa."