Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llythyrau Thomas Jones

Y mae y cwbl o'r Hanes hyd yma, oddieithr nodiad neu ddau, wedi ei ysrifgenu gan ein diweddar Gyfaill, parchedig ac anwyl, a'i law ei hun. Ond o hyn allan y mae'r gorchwyl adrodd ychydig hanes am dano, wedi disgyn arnom ni, sydd wedi ein gadael ar y maes dros ryw encyd ar ei ol ef. Y mae'r Hanes i gael ei gasglu oddiwrth yr hyn sydd mewn. côf gan ei Gyfeillion am dano; o'r amrywiol lythyrau ato, a'r eiddo yntau at amryw ereill: yn enwedig oddiwrth yr hyn sydd ac a fydd yn hir, mewn côf gan ei anwyl Weddw; yr hon a adawyd i alaru ei cholled am dano.

NYNI a welwn mai'r peth olaf a 'sgrifenoedd ein diweddar Gyfaill hybarch o'i hanes ei hun, oedd hyd farwolaeth y Parchedig Mr. Charles. Mae'n sicr fod marwolaeth y gwr tra enwog hwnw wedi effeithio yn drwm iawn ar feddwl Mr. Jones; a thebygol yw, gan fod ysgrifenu Hanes bywyd Mr. C. wedi dyfod i'w rain ef i'w gyflawni, i hynny beri iddo esgeuluso 'sgrifenu Hanes ei fywyd ei hun ddim pellach.

Ionawr 3, 1816, yn mhen y pymtheng mis ar ol marwolaeth Mr. Charles, y gorphenodd Mr. Jones ysgrifenu ei Gofiant ef. Yn y mis Mai canlynol y bu iddo symmud ei drigfa, o Ddinbych i Syrior, yn agos i'r Bettws, ger llaw Abergele, yn yr un Sir.

Trefnodd rhagluniaeth i Mr. Jones newid ei drigfan. amryw weithiaus eithr clybuwyd