Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn dywedyd, lawer gwaith, ei fod yn cael boddlonrwydd i'w feddwl, mai yn ol trefn ddoeth rhagluniaeth yr oedd ei symmadiadau oll.—Y symmudiad cyntaf a fu yn y flwyddyn 1795. Yn Hydref y flwyddyn honno y darfu iddo brïodi (fel y crybwyllwyd tu dal. 51 ganddo ef ei hun) a symmud o'r Penuchaf, gerllaw Caerwys, ei dreftadaeth ei hun, a'r lle y magesid ef, i'r Wyddgrug; lle yr oedd ei wraig ef yn preswylio. Er iddo symmud o Gaerwys, lle ganwyd ef, a'r lle y dechreuodd ar ei yrfa grefyddol, ac ar ei weinidogaeth, ni bu i'w gariad cyfeillaidd, a'i ofal gweinidogaethol ef tuag at y Gymdeithas honno, ddim oeri tra y bu efe byw yn y byd; nac ychwaith eu cariad hwythau tu ag ato yntau; fel y tystia' y llythyrau canlynol attynt: y rhai, fel ychydig o lawer, y tybir yn addas eu dodi i mewn yma. Y cyntaf a 'sgrifenodd efe yn fuan ar ol ei ymadawiad oddi yno; yr ail, ar ei ymadawiad o'r Wyddgrug i Ruthyn; a'r trydydd ychydig cyn ei ymadawiad o'r byd trangcedig hwn, i wład a thrigfa lle ni bydd arno chwant ymadael o honi byth mwyach. Er fod y cyntaf yn argraffedig eisoes, yr ydym yn barnu ei fod yn deilwng o le yma; yn enwedig am nad yw'r