Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Drysorfa, lle y mae hwnw, yn nwylaw ond ychydig nifer mewn cymhariaeth.

"ANWYL GYFEILLION,
"YR wyf oddi yma yn eich annerch â hyn o linellau, fel arwydd bychan o ryw garedigrwydd wyf yn ei deimlo atoch, er fy ngwahanu oddi wrthych; Yn wir, er oered ydwyf, ni fedraf lai na dymuno ac erfyn am eich llwyddiant yn mhob ystyr; yn enwedig eich cynnydd mewn gras a phob dawn ysprydol. Er pan adawais chwi, yr ydych wedi bod aml waith ar fy meddwl, ag yr wyf yn gobeithio fy mod innau ar eich meddau chwithau, o flaen gorsedd gras. Os dywedaf ddim wrthych mewn ffordd o gynghor, dyma'r pethau sy'n fwyaf ar fy meddwl Llafuriwch a gweddiwch am i chwi iawn-barchu, derbyn a defnyddio gwerthfawr air Duw. Heb y gwirionedd o hyn ni's gallwn gael diangfa gyfreithlon oddi wrth gyhuddiadau Deddf a Chydwybod, ac oddiwrth ofn drwg. Ac heb hyn, ni's gall ofn mabaidd a pharch duwiol i orchymmynion Duw, gael na sail na lle dyladwy yn ein heneidiau. Ië, oddieithr i hyn gael ei feithrin a'i chwanegu ynom, nid ydym yn debygol