Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o fod yn gyson mewn egwyddorion na rhodiad. Cymmwysiad ysprydol a sylweddol o wirioneddau'r gair at yr enaid, yw'r feddyginiaeth oreu rhag pob afiechyd ysprydol; megis balchder, deddfoldeb, daearoldeb, anfoddlonrwydd, anystyriaeth, digalondid, digter, rhagfarn, ysgafnder Hygredig, a phob chwantau. O'm rhan i, yr wyf yn addef fod yr awel leiaf o hawddfyd, neu adfyd, o ŵg, neu wên, pa un bynag ai o'r Nef neu'r ddaear, os cysur, os croes, iechyd, neu afiechyd, parch neu anmharch. pob un o honynt yn fy nhaflu i, oddieithr bod yr Arglwydd yn dwyn fy meddwl at ei air, ac awdurdodi y gai lywodraethu ynof. Dymuniad fy enaid frosoch chwithau, fel trosof fy hunan, yw, ar i'r Arglwydd eich dal uwch ben matterion a gwirioneddau'r gair; ac i chwi gael profi bod awdurdod hwnw yn ynnill y dydd ar eich ofnau a'ch llygredigaethau oll; a'i fod megis balast yn eich llestri, yn wyneb awelon haf a gauaf, deniadau a rhuthriadau byd, cnawd, a Satan, cyfnewidiadau a phrofedigaethau bywyd a marwolaeth. Edrych y byddoch hefyd, yn fynych ac yn ffyddiog i fynu at y Duw sydd yn Awdwr pob gwir lwyddiant a rhodd ddaionus, yn llenwi pob di-