Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffyg a gwagle, yn amlhâu cryfder i'r dirym, yn gwneuthur yr anmhlantadwy yn llawen fam plant, ac yn dwyn goleuni allan o niwl a thywyllwch. Efe, sydd yn Dduw pob gras, a'ch cryfhäo, a'ch amlhäo, a'ch sefydlo chwi, yn, a thrwy ei wirionedd. Na foed gènych ymrafael, ond gan bawb âg ef ei hun; nac ymdrech, ond tros y gwirionedd; na chasineb, ond at bechod: ac na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond yr eiddo Crist Iesu. Gras a gorfoledd ei iechydwriaeth a ymaflo, a drigo, ac a gynnyddo ynoch hyd y diwedd. Y mae fy ymysgaroedd yn wir mewn peth helaethiad tu ag atoch, a throsoch; er fy mod, dybygwn, gan law rhagluniaeth, wedi fy symmud oddi wrthych; ac heb wybod pa bryd, os ryw-bryd etto, y caf fod yn eich plith yr ochr yma i'r bedd. Pa fodd bynag, hyn yw fy nhystiolaeth am danaf fy hun; Yr Arglwydd a fu dda wrthyf yn mhob modd hyd yn hyn; am hynny, frodyr, diolchwch: Yr wyf hefyd yn wan yn wyneb fy ngwaith a'm profedigaethau; am hynny gweddïwch trosof, ar i weddill fy nyddiau byrrion fod yn fwy i ogoniant yr hwn a'm carodd, ac am neillduodd at ei waith mawr.

"Hyn oddiwrth eich gwael, etto caredig gyfaill,
W—g, Tach. 21, 1795. "Т. Ј."