Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan oedd Mr. J. yn ymadael o'r Wyddgrug, yn y flwyddyn 1804. Gwel am hyn tu dal. 62, bu y Brodyr yn Nghaerwys yn taer ymbil arno i ddychwelyd yno atynt hwy i gyfaneddu; i'w

dreftadaeth ei hun. I'r hyn y mae'r llythyr tirion, gostyngedig, sy'n canlyn, yn ateb. Er nad yw y dyddiad yn eglur wrtho, etto y mae ei gynnwysiad yn dangos y pryd yn ddigon hyspys.

Wyddgrug, Mercher y boreu.

"ANWYL GYFEILLION,
"YR ydwyf yn teimlo y caredigrwydd ydych yn ei ddangos attaf, trwy eich taer wahoddiad arnaf i anneddu etto yn eich mysg: Ac yr wyf yn ddiau, tybygwn, yn gweled fy hun yn annheilwng o'ch neillduol sylw chwi, a phob cangen o Eglwys Dduw: Ond, yn ateb i'ch galwad, nid oes genyf ond mynegi fod amryw bethau wedi gogwyddo fy meddwl at Dref Ruthyn; y'nghŷd a gradd o annogaeth amryw o'm Brodyr yn y weinidogaeth. Yn ganlynol, os bydd yr Arglwydd yn gweled yn dda roi rhywfaint etto o estyniad i fy oes, y mae'n debygol mai yno yr af.

"Bu'n dda gènyf feddwl cyn hyn, fod cyf-