gynhaliaeth a weinyddwyd i chwi, a thrwy ba foddion, dan yr argyhoeddiadau hynny?—Pa bryd, a thrwy ba foddion, y datguddiodd Duw ei Fab ynoch? —Pa droion neillduol, o gyfyngderau a gwaredigaethau, a gyfarfuant â chwi ar eich taith trwy yr anialwch hyd yn hyn?—Pa gymhelliadau a'ch tueddodd tu ag at waith Gweinidogaeth y gair?—Pa rai a fuant yr anhawsderau a'r profedigaethau mwyaf?—hefyd, pa gysuron, a pha lwyddiant, a gawsoch, yn eich gwaith yn gyhoeddus?—Pa bethau hynodol a ddaliasoch sylw arnynt yn eich dyddiau, yn y dull, a'r moddion trwy ba rai, y dygodd yr Arglwydd ei achos gogoneddus y'mlaen?—Pa ddichellion ac ymosodiadau o eiddo'r gelyn a sylwiasoch arnynt, yn tueddu i attal y gwaith, yn yr Eglwysi, ac yn y byd? a pha fodd, er holl ddyfais y gelyn, yr aeth yr achos y'mlaen, ac y gorchfygwyd Satan a'i offerynau?—Beth yw eich grym a'ch cysur presennol yn y Weinidogaeth? a pha beth yw sail eich gobaith am fywyd tragywyddol yn wyneb angau a barn?
Derbyniais y Gofyniadau uchod yn y gwanwyn, 1800, ac yr wyf yn dymuno eu hateb