Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eillion yn fy nghofio yn eu gweddïau: A'm dymuniad yn bresennol yw, fy mod yn cael y dysttiolaeth hon o'ch caredigrwydd yn ychwaneg: Gweddïwch ar i'r Arglwydd fy rhagflaenu, fy arwain, a'm llywodraethu yn ol ei feddwl ei hun, ac i glod ei anfeidrol ras.

"Dagènyf glywed am eich llwyddiant: A'm gobaith a'm herfyniad a gaiff fod, ar i'r Arglwydd eich cynnal, eich amlhâu, a'ch dwyn ar gynnydd; ar i chwi allu sefyll y'nghwbl o ewyllys Duw, yn rhwymyn cariad a thangnefedd, gan ddwyn ffrwyth yn mhob gweithred dda. Y mae gènym drysorau anchwiliadwy. a diderfyn o'n blaen yn iechydwriaeth ac efengyl Crist; a gorchwyl o'r anrhydeddusaf yn ei dŷ a'i wasanaeth, tan ei iau, a than ei groes hefyd. Mewn symledd a deffröad duwiol y byddo'n heneidian a'n cyrph, yr hyn a feddom ac ydym yn offrymedig ac ymroddgar yn y gwaith.

"Hyn yn fyr, Anwyl Gyfeillion,
"Oddiwrth eich brawd a'ch Cyfaill gwael,

"THOMAS JONES."

Yma y canlyn, rhan o Lythyr a 'sgrifenodd Mr. J. at un o'r Cyfeillion yn