Nghaerwys, yn y mis Mai, 1819: Yn yr hwn y gellir gweled ei ofal tirion ef am achos Duw yn yr ardal honno.
"ANWYL FRAWD,
"NID wyf etto wedi cael fy Ewyllys o law y Cyfreithiwr; ond gallaf ei ddysgwyl yn fuan; ac felly (os bydd y Cyfarfod Misol yn dewis hynny) mi a roddaf fy llaw wrth Lease ar y Capel, a'r tir sydd i mi y tu cefn iddo, am fil o flynyddoedd, ac am y Rhent o ronyn haidd os gofynir. Ond yr wy'n gobeithio na bydd gwrthwynebiad i mi na'm hetifeddion adeiladu tŷ, os chwennychir hynny, a'i bwys ar dalcen isaf y Capel, a hyn gyd â llawn ryddid i'r rhai a fyddo yn ofalwyr am dano, fyned trwy y ty neu'r ardd, ar bob achos rheidiol. Wyf mewn cryn waeledd gan anwyd a pheswch trwm,
- "Eich Cyfaill,
"THOMAS JONES."
Derbyniodd y Cyfarfod Misol y cynnygiad uchod gyda diolchgarwch; a chafwyd y Lease ychydig cyn marwolaeth Mr. Jones.
Yn y flwyddyn 1806, y darfu i Mr. J. adeiladu lle iddo ei hun breswylio yn Nhref