Ddinbych; ac yn y mis Ebrill, 1809, y symmudodd efe o Ruthyn yno i fyw.
Yn y flwyddyn 1816, yn y mis Mai, y symmudodd Mr. Jones o Ddinbych i Syrior. Gan fod rhyw ddynion yn cymmeryd achlysur oddiwrth symmudiadau Mr. J. i farnu fod rhyw "anwastadrwydd yn nhymmer ei feddwl," nid ydyw ond cyfiawnder i'w goffadwriaeth, i nodi'r pethau a fuont yn achos o'r symmudiad hwn. Hyspys i bawb a'r a adwaenai Mr. J. neu a wyddai am dano, mai nid gwr iachus o ran ei gorph oedd efe, dros y rhan fwyaf o'i oes; ond ei fod yn ei flynyddoedd olaf, a holl ansawdd ei natur wedi llesgâu i raddau mwy na chynt. Mewn golygiad ar waeledd ei iechyd, annogwyd ef, gan amryw gyfeillion, i ymofyn am drigfan yn y wlad, gan ddysgwyl y byddai i hynny fod er cryfhâd ac adfywiad i'w natur: Ac, y byddai iddo drwy gael lle i gadw ei geffyl, allu teithio rhyw-faint chwaneg yn ngwaith y weinidogaeth, er llês ei gyd-wladwŷr. Gwedi gwneuthur prawfo hynny, dros ddwy flynedd, gwelodd nad allai ddal i deithio ond ychydig, yn enwedig yn y gauaf. Hefyd, yr oedd dymuniad cyffredinol arno, gan ei gyfeillion i gyhoeddi gwaith yr enwog Mr. Gur-