Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nal; yr hyn nid oedd yn gweled mor gyfleus ganddo ei wneuthur, tra fyddai yn byw yn mhell oddiwrth yr Argraff-wasg. Erbyn pwyso pob peth y'nghŷd, barnodd mai ei ddyledswydd oedd gwerthu ei geffyl, a dychwelyd i'w dŷ ei hun i Ddinbych yn ol. Felly y gwnaeth, yn y mis Mai, 1818; wedi bod yn Syrior ddwy flynedd.—Ymdrechodd Mr. J. i deithio, hyd y goddefai ei iechyd ef, tra fu yn Syrior; ac ni adawodd yr Arglwydd mo hono heb arwyddion amlwg o lwyddiant ar ei weinidogaeth yno, mwy nag yn y manau ereill y bu efe.

Yn y mis Mai, 1817, pan oedd yn byw yn Syrior, y galwyd ef i fynu i Lundain, i bregethu o flaen y Gymdeithas Genhadawl; ac y pregethodd ar Esay 52. 15. Argraffwyd y bregeth gan y Gymdeithas. Y mae hi yn awr wedi ei chyfieithu, ganddo ef ei hun i'r Gymraeg, ac wedi ei gadael mewn trefn barod i'r Wasg. Byddai hyfryd genym ei gweled wedi ei chyhoeddi; er mwyn y Cymry. Enwad y bregeth ydyw," Y MESSIAH YN TAENELLU CENHEDLOEDD LAWER.'

Yr oedd Mr. Jones yn gefnogwr cadarn i'r Gymdeithas Genhadawl, o'i dechreuad; y mae anmryw lythyrau gwresog a serchus a fu rhyng-