ddo ef âg ysgrifenydd y Gymdeithas honno, i'w gweled yn mysg ei bapurau ef. Yr ydoedd hefyd yn gynnorthwywr ffyddlon a haelionus i'r Gymdeithas hon; y'nghyd ag amryw Gymdeithasau a sefydliadau erei'l; yn enwedig Cymdeithas y Biblau: I'r olaf hon yr ydoedd yn Ysgrifenydd, sef y Gymdeithas Gynnorthwyol yn Sir Ddinbych.
Athrawiaeth Thomas Jones
Gan fod Mr. Jones wedi ysgrifenu cynnifer o Lyfrau, ar byngciau dadleuol, ni's gellid llai na dysgwyl fod iddo lawer o wrthwynebwyr; y rhai, ar brydian, y'ngrym yspryd dadleugar, a gymmerent eu rhyddid i ddywedyd am dano bethau dros ben y gwirionedd. Er, gobeithiwn, mai mewn anwybodaeth, ac nid gyd â bwriad maleisus i dduo ei enw da ef, yr oeddynt yn gwneuthur hynny. Prysured yr amser ag y byddo gwylwyr Sion yn dyfod i weled lygad yn llygad, Esay 52.8.
Nid ein gorchwyl ni, yn bresennol, ydyw myned i gynnal dadl â neb, ar y naill bwngc. na'r llall; ond yr hyn sydd yn gorphwys arnom ydyw, amddiffyn y gwirionedd o berthynas i enw da ein Parchedig Frawd; yr hwn, nid yw mwyach gyd â ni, yn nyffryn wylofain, i'w amddiffyn ei hun; eithr y mae efe wedi esgyn i'r