Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wlad dawel, a'r breswylfa lonydd, uwch y sêr; lle mae

"Pawb o'r brodyr yn gyttun,
Heb neb yn tynnu'n groes."

Y mae rhai o wrthwynebwŷr Mr. J. yn dywedyd, Fod ei farn ef ar Brynedigaeth yn wrthwynebol i farn y Corph y perthynai iddo, &c. Nad ydoedd mewn undeb â'i Gorph ei hun, &c. ond ei fod yn derfysgwr ynddo: a llawer o ymadroddion cyffelyb. Yn ateb i'r camgymmeriadau uchod, (a rhoi'r enw goreu arnynt) ni cheisiwn ni ddim ond gosod o flaen ein darllenwŷr, rhai llythyrau, a rhan—lythyrau, oddiwrth Gymdeithasfaoedd y Corph yn Ngogledd a Deau; y'nghŷd ág oddiwrth rai personau neillduol, o Enwogion a Blaenoriaid y Corph.

Ni a gawn fod Mr. J. yn dyddio llythyr, Rhagfyr 26, 1815, at Gymdeithasfa Llanrwst; lle mae efe, ar ol cyfarch y Brodyr, mewn modd syml a charedig, yn achwyn y cam, yn ol ei farn, a'i feddwl ef, ag oedd y gwirionedd yn ei gael; ac yntau ei hun hefyd wrth geisio amddiffyn y gwirionedd. Derbyniwyd, ac ystyriwyd, y llythyr hwn mewn modd teilwng a charedig; ac anfonwyd y llythyr canlynol yn