Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ateb iddo; y'nghyd a dwylaw chwech o'r Brodyr yn y Weinidogaeth wrtho: sef un o bob Sîr yn Ngwynedd.

Llanrwst, Rhagfyr 29, 1815.

"FRAWD CAREDIG,
"MAE 'n ddrwg gènym fod eich meddwl yn cael ei derfysgu, gyd â'r peth a soniasoch; ac y mae'n dra drwg gènym fod dywediadau neb o honom yn achlysur o'ch gofid. Nid ydym yn eich cyfrif yn gyfeiliornwr, nac yn foddlon bod neb yn eich galw felly. Nid ydym yn anfoddlawn eich bod yn dywedyd yn helaeth am fawredd, a gwerth Person y Cyfryngwr; ac yr ydym yn meddwl, er i ni oll ddywedyd, hyd eithaf ein dawn byr, na, ddywedwn byth y filfed ran o'i fawredd na'i werth. Nid ydym ychwaith yn anturio gosod mesur ar ei ddyoddefiadau a'i angau; ond yn credu bod gwerth anfeidrol yn ei holl ddyoddefiadau a'i angau: A'i fod yn Aberth, ac Iawn perffaith ddigonol, dros yr holl rai y gosodwyd ef yn eu lle, ac er bod eu pechodau yn aneirif, a drwg eu pechodau yn anfeidrol, etto bod yr Iawn anfeidrol yn ddi-