gonol. Ac nid ydym yn rhyfygu dywedyd, nad oedd yr Iawn yn ddigonol dros filoedd aneirif yn ychwaneg: Pe buasai Duw yn ei osod drostynt, ac yn eu lle.—Frawd caredig, caru gwirionedd a heddwch yr ydym: am hynny gochelwn bob geir-ddadl diangenrhaid. Tangnefedd i chwi Frawd.
Ydym eich Brodyr yn yr Efengyl
J. E.J. R.
J. D.R.E.
J.H.J.J.
Derbyniodd Mr. Jones y llythyr uchod gyd â gradd o sirioldeb, fel y gwelwn wrth y llythyr canlynol; a anfonodd efe at gyfaill, wedi ei ddyddio Chwefror 28, 1816, ychydig cyn Cymdeithasfa Dinbych.
"ANWYL FRAWD
"Ar ol im' fod mewn profedigaethau dwys, cefais gryn radd o gysur trwy y Llythyr a anfonodd amryw o'm brodyr ataf o Lanrwst. Bernais mai fy lle ydoedd dangos i'm brodyr y golygiad sy genyf ar Brynedigaeth (a sicr yw gènyf fod hynny yn ol barn ein hen Dadau yn Nghymru, a'r Eglwysi a'r Duwinyddion iach-