Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

usaf;) a'm bwriad, wedi argraffu nifer bychan, yw ei gynnyg i ystyriaeth a barn fy mrodyr, neu nifer o'r henuriaid, a gadael iddynt hwy wneyd âg ef fel y gwelont yn addas. Yr wyf yn anfon Copi anmherffaith, gan obeithio na bydd fy ngwaith gwael er tramgwydd i'm hanwyl frawd J. E. i neb o'm brodyr yn Ngs, nag yn un lle arall. Cyfeiried yr Arglwydd ein traed i ffordd gwir dangnefedd.

"Hyn, mewn brys, oddiwrth
"Eich cyfaill gwael, helbulus,

"THOMAS JONES."

Dinbych, Chwef. 28, 1816.

Y dydd cyntaf o Fawrth, yn Nghymdeithasfa Dinbych, yn y Cyfarfod neillduol, am wyth ar gloch yn y boreu, darfu i'r brodyr ag oedd wedi bod yn edrych dros Lyfryn Ymddyddanion Mr. Jones, ar Brynedigaeth, Ddatgan eu barn, a'u tystiolaeth, o'i blaid; a'i gyhoeddi i'r Corph, fel Traethawd yn cynnwys athrawiaeth iachusol a chymmeradwy.

Yn mhen o ddeutu saith mis, anfonodd Mr. Jones Lythyr at y Brodyr oll, yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yr hon a gynnaliwyd ar y