dyddiau cyntaf o Hydref, yn yr un flwyddyn. Y mae efe yn y Llythyr hwn, yn cwyno yn drwm iawn, o achos rhai ymadroddion ag oedd yn cael eu harferyd, gan rai yn y wlad; Eu bod yn tueddu er dianrhydedd i'r Cyfryngwr mawr. Gwnaed sylw teilwng ar y llythyr uchod, ac anfonwyd yr ateb canlynol iddo..
"BARCHEDIG FRAWD,
"Derbyniasom, a darllenasom, eich caredig a chwynfanus lythyr. Gofidus gènym glywed fod eich iechyd yn anmharus, a'ch meddyliau yn anghysurus. Ymdrinasom ar y matter, cynnwysedig yn eich llythyr, mor fanwl ag y gallasom; a methodd genym ddeall, er chwilio, fod y Corph, yn gwyro, mewn un mesur oddiwrth iawn synied am anfeidroldeb Person, ac Iawn y Cyfryngwr. Ac os darfu i rai, arfer rhai geiriau annoeth, ac anaddas, ryw amser a fu, fe ymrwymodd pawb, yn ein cyfarfod presennol, na byddai iddynt o hyn allan, arfer un dull o ymadroddi ag a fyddai yn debyg o fagu un terfysg; gan hyderu y gwnewch chwithau yr un modd: Ac os clywch, o hyn allan,