Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn eglur mai yn ol fel y byddo syniadau dyn ar y pethau hyn, y bydd ei grefydd yn nefol neu yn ddaearol, yn Ddwyfol neu yn ddynol; a dyna paham y rhoddai gymaint o bwys ar feddiannu golygiadau ysgrythyrol a chyson ar arfaethau y Brenin mawr, ac etholedigaeth gras.

Fel y mae golygiadau dynion ar arfaeth ac etholedigaeth yn dylanwadu yn gryf ar eu holl gyfundraeth Dduwinyddol, felly, hefyd, y mae y syniadau fyddo ganddynt ar Oruchwyliaeth Eden a Chynnrychiolaeth Adda yn sicr o effeithio yn fawr ar eu syniadau am lawer o bethau pwysig eraill; megys, doethineb, daioni, a chyfiawnder Duw yn y sefydliad a wnaeth efe yn Mharadwys, gyda golwg ar hiliogaeth y dyn cyntaf; natur sefyllfa creadur perffaith, yn ei berthynas â'r Goruchaf; natur pechod; beth yw yr anfanteision a'r colledion a ddaeth ar hil Adda mewn canlyniad i'w drosedd ef; tegwch athrawiaeth Cyfrifiad, a'r hyn a gynnwysa; cynnrychiolaeth yr Adda diweddaf, a chyfrifiad o'i gyfiawnder ef i rai euog, er eu cyfiawnhad; y rhesymoldeb i un gael ei achub drwy haeddiant un arall; marwolaeth plant bychain; yr hyn a gynnwysa eu hiachawdwriaeth drwy Iesu Grist; beth yw perthynas bresenol dynolryw a chyfammod Eden; yn mha bethau yr oedd y sefydliad a elwir, yn gyffredin, "Y Cyfammod Gweithredoedd" yn gynwysedig; a oedd ynddo ras mawr yn gystal a chyfiawnder; yn nghyd a phethau eraill y gellid eu nodi.i

Y mae genym Draethawd byr o eiddo yr Hen Olygydd, a gyhoeddwyd ganddo yn y Dysgedydd, ar ol iddo ef roddi yr olygiaeth i fyny; a chan ei fod yn dangos, i raddau, beth oedd ei farn ar y sefydliad Edenaidd, rhoddir ef yma, er mwyn darllenyddion y Cofiant hwn:

CYNNRYCHIOLAETH ADDA.

Wrth ymdrin â'r mater difrifol a phwysig hwn, dymunem sylwi ar y gosodiadau canlynol:

1. Fod Duw wedi creu Adda ar ei lun a'i ddelw ei hun, mewn gwybodaeth, cyfiawnder, a santeiddrwydd. Pa hyd y parhaodd yn y cyflwr hwn, nis gwyddom; ond y mae yn ddi-