Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diau fod Adda yn gwybod yn dda ei fod yn sefyll dros ei hiliogaeth;—yr oedd yn degwch iddo gael gwybod hyn—ac nid ei adael yn y tywyllwch, a llen megys dros ei lygaid; a diau hefyd ei fod yn caru dedwyddwch ei holl hiliogaeth, yn gystal a'i ddedwyddwch ei hun. Yn gymaint a'i fod yn berffaith santaidd, nis gallasai lai na theimlo felly; a gallasai ddywedyd, Os bydd i mi gadw fy lle am dymmor fy mhrawf, bydd i mi, nid yn unig sicrhau dedwyddwch i mi fy hun, ond dedwyddwch hefyd i'm holl blant: ac ar y llaw arall, os bydd i mi droseddu gorchymyn fy Nghrëwr, mi a ddygaf, nid yn unig fy hun, ond fy holl blant hefyd, i gyflwr o bechod a thrueni; mewn geiriau eraill, yn ddarostyngedig i farwolaeth ysbrydol, naturiol, a thragwyddol.

Gwrthddadl.—Nis gallasai cyflwr truenus dynolryw, mewn canlyniad i drosedd cyntaf Adda, fod yn un annogaeth iddo gadw ei le, oblegid yr oedd yn credu y byddai farw yn y dydd y bwytâi o'r ffrwyth gwaharddedig; o ganlyniad, ni fuasai ganddo hiliogaeth mewn cyflwr truenus i deimlo drostynt.

Atebiad.—1. Nid yw y geiriau, "Yn y dydd y bwytei o hono, gan farw ti a fyddi farw," yn golygu y byddai iddo farw yn ddioed ac anocheladwy pan y pechai, ond y dygai ei hun yn ddarostynedig, neu yn agored i farwolaeth. Diau mai hyn ydoedd meddwl Duw wrth lefaru y geiriau; pe amgen, buasai marwolaeth naturiol yn cymeryd lle y dydd hwnw heb arbediad. Gan mai hyn ydoedd meddwl Duw wrth lefaru y geiriau, fel hyn yr oedd am i Adda eu deall; a diammau mai fel hyn y deallodd yntau hwynt, ac nid yn wahanol.

2. Yr oedd ganddo sylfaen ddigonol i gredu y byddai ganddo hiliogaeth, oblegid i Dduw ddywedyd wrtho ef a'i wraig Efa, "Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi, ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear," Gen. i. 28. Dylem gymeryd y geiriau yn hytrach fel addewid na gorchymyn, megys yn adnod 22, pryd yr arfer-