Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni chawsai afael byth ar y gerbydres. Cwmni y Duwinydd o Lanuwchllyn, mae yn debyg a'i denodd i droi adref mor gynarol. Wedi y cwbl, odid fawr nad oedd efe ryw hyd rhaff ar ol y Doctor yn myned dros y bont o'r dref.

Buasai yn ddymunol iawn genym pe gallasem godi y llen a daenodd amser dros amryw o bethau cysylltiedig â chyfarfod urddiad Mr. Jones, heblaw manylion gwasanaeth y cwrdd ei hun; megy's Pwy o wyr Pennantlliw oedd yn bresenol ynddo? A oedd Harri Rowlands, y Deildref Isaf; Ellis Thomas, Tymawr; Cadwaladr Williams, Wernddu; John Williams, Ty'nybryn; Thomas Cadwaladr, y Wern, &c., yn bresenol fel hen gymmydogion, a brodyr crefyddol, i roddi ychydig of galondid i'w brawd ieuange ar ddechreuad ei weinidogaeth? A oedd Jane Howell; Elizabeth Thomas; ac Ellen Jones, y chwiorydd deallus oeddynt ar y pryd yn Llanuwchllyn, wedi anturio dros y Garneddwen i'r cyfarfod? Beth oedd barn doethion ei hen ardal am ragolygon y gweinidog ieuange? A oedd ei dad, neu ei fam, neu y ddau, yn y cwrdd dyddorol hwnw? Buasai yn dda iawn genym wybod a welodd cu llygaid hwy eu hunig fab, a'u hunig blentyn, yn wir, yn cael ei neillduo i'r weinidogaeth; ac a glywodd eu clustiau yr oll a ddywedwyd wrth yr Arglwydd, ac wrth ddynion yn ngwas- anaeth dydd yr urddiad; a pha beth oeddynt yn feddwl, a pha fodd y teimlent ar y pryd. Ond y mae llai na thri-ugain mlynedd wedi symud y posiblrwydd o wybod y pethau hyn, a'u cyffelyb o'n cyrhaedd, mor drylwyr, agos, a phe buasent wedi cymeryd lle cyn y diluw. Clywsom lawer gwaith, nad oedd John Cadwaladr yn golygu fod ei fab yn ymddwyn yn ddoeth wrth ymgymeryd a gwaith y weinidogaeth. Digwydd- odd unwaith pan oedd Cadwaladr Jones gartref yn y tymhor haf, wedi iddo dreulio y gauaf cyn hyny yn yr Athrofa, i'w dad ymddiried iddo y gorchwyl o wneyd y ddås-wair; ond pan ddaeth ef o'r cae i'r weirlan i edrych pa fodd yr oedd Cadwaladr yn cyflawni ei orchwyl, gwelai fod y ddas yn gwyro tipyn i un ochr, pan y dylasai fod yn wastad. Galwai y daswr i gyfrif, a dywedai wrtho, braidd yn wyllt ei dymher,