Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnynt yn ddiarbed, am gryn dymhor, a hwythau yn ergydio yn rymus yn ol at eu gwrthwynebwyr. Ond nid rhyw lawer o gynnydd oedd wedi bod arnynt, wrth a fu wedi hyny, pan sefydlodd Mr. C. Jones yn maes ei lafur. Er hyny, yr oedd eu dyfodiad i'r wlad wedi, peri deffroad mawr yn mysg pobl feddylgar o bob enwad, i chwilio a oedd seiliau safadwy i'r pethau a "gredid yn ddiamheu yn eu plith." Rhoddodd dadleuon Sandemaniaeth, a Bedydd credinwyr trwy drochiad, a dadleuon Arminiaeth ar byngciau y ffydd, symbyliad ac ysgogiad i'r meddwl Cymreig i chwilio am y gwirionedd, ag sydd hyd heddyw heb ddarfod yn ein plith. Felly, er mor chwerw yn fynych yw dadl, daw peth lles allan o honi.

Am sefyllfa achos crefydd yn mysg yr Annibynwyr yn ngogledd Cymru, pan ymsefydlodd y Parch. Cadwaladr Jones yn Nolgellau, gellir dywedyd, mai "dydd y pethau bychain" mewn cymhariaeth oedd y dydd hwnw. Nid oedd rhifedi yr aelodau eglwysig a ymunent i roddi galwad iddo ef, er ei bod. yn alwad unfrydol, a'r cynnulleidfaoedd yn bedair mewn nifer, ond ychydig dros gant. Yr oedd cynnulleidfaoedd cryfion yn Llanbrynmair, Llanuwchllyn, Pwllheli, Caernarfon, Dinbych, Treffynnon, a Llanfyllin: ond yn y cyffredin, cynnulleidfaoedd gweiniaid a gwasgaredig iawn oedd rhai yr Annibynwyr yn y gogledd; ac wrth ystyried fod yr enwad hwn, er's ugeiniau. lawer o flynyddoedd yn y wlad, gall hyny ymddangos yn rhyfedd i ambell un.

Digon tebyg fod yma fan gynnulleidfaoedd o Annibynwyr er amser y werinlywodraeth; ac er y galwant hwy eu hunain weithiau yn Bresbyteriaid, ac y gelwid hwy felly hefyd gan eraill, etto, nid oedd yn eu plith nemawr o Bresbyteriaeth, heblaw yr enw. Nid oeddynt yn gweithredu yn ol y drefn Henaduriaethol, ac nid oedd ganddynt lysoedd i appelio atynt mewn amgylchiadau o wahaniaeth barn. Annibynwyr dan yr enw o Bresbyteriaid oedd amryw o gynnulleidfaoedd Ymneillduol Cymru yn y dyddiau gynt. Yr oedd "Henuriaid llywodraethol" ganddynt feallai; ond eu gwaith ydoedd cynnorthwyo y gweinidog a'r holl gynnulleidfa, i ddwyn yn mlaen