Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ardal Dolgellau y magwyd y Barwn Richards, y Prif Farnwr enwog. Yno hefyd y preswyliai Teulu y Llwyn, o ba un yr hanodd Dr. John Owen, "Tywysog y Duwinyddion." Yno yr oedd llyfrgell gyfoethog yr Hengwrt, yn yr hon y cedwid llawer o hen ysgrifau Cymreig, o gryn werth.

Nid oedd Dolgellau yn ymddifad o ysbryd anturiaethus mewn llaw-weithyddiaeth a masnach yn nechreu y ganrif bresennol, a chyn hyny hefyd, yn enwedig mewn gweithio gwlan yn weoedd i'w hanfon i Loegr, a chrwynyddiaeth. Buasai yno hefyd haiarnwaithfa yn lled ddiweddar yn tyrfu yn mysg y preswylwyr: ond ni ddychymygasai neb, y pryd hwnw, y deuai dydd i agor aur-weithfeydd yn y gymmydogaeth. Amaethwyr a gweithwyr amaethyddol, trinwyr anifeiliaid, a bugeiliaid o'u mebyd, oedd y rhif luosocaf o drigolion yr ardaloedd o amgylch Dolgellau.

Buasai gan yr enwog Hugh Owen, o Fronyclydwr, gynnulleidfa fechan yn y "Ty Cyfarfod," yn Nolgellau yn y ganrif cyn y ddiweddaf; a phregethid yn achlysurol gan weinidogion yr Annibynwyr yn yr ardaloedd o gylch y dref, os nad yn y dref ei hun, wedi ymadawiad y gwron o Fronyclydwr: ond ni ddaeth yr anialwch i flodeuo nes y cyfododd yr Arglwydd Mr. Pugh, o'r Brithdir, i gyhoeddi y newyddion da i'w gydardalwyr.

Daeth y Cyfeillion (Crynwyr) i lafurio yn amgylchoedd Dolgellau yn lled foreu, a bu cryn lwyddiant ar eu llafur. Casglasant gynnulleidfa gerllaw y dref, adeiladasant addoldy, a mynasant ardd i gladdu eu meirw, ar bwys eu "Ty Cyfarfod." Mudodd amryw o honynt i Bensylfania yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Erbyn hyn y maent wedi llwyr ddiflanu o'r ardal, yr olaf o honynt wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ychydig o flynyddau yn ol, a'u capel wedi ei werthu i'r Annibynwyr er ys tro bellach.

Yn ystod gweinidogaeth fer Mr. Pugh, ac yn nechreuad. gweinidogaeth hirfaith Mr. Jones, ymddengys fod ychydig o bersonau yn Nolgellau o dueddfryd Undodaidd, ac yn tybied. eu bod wedi cyrhaedd rhyw ddoethineb uwchraddol, a bu eu