Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pethau dyrys duwinyddiaeth,' ac am esboniad ganddo ar adnodau tywyll a dieithr. Yr oeddynt yn nodedig am y pethau hyn, yn enwedig yn Rhydymain.

"Ar ddechreuad fy ngweinidogaeth yno, dywedodd Mr. Jones wrthyf un tro, 'Dichon y bydd y cyfeillion yn y ddau le, yn enwedig Rhydymain, yn gofyn i chwi lawer o gwestiynau lled anhawdd eu hateb, ar byngciau efallai, na feddyliasoch. fawr am danynt erioed; ac eisiau esboniad genych ar ambell adnod led dywyll a dieithr i chwi. Peidiwch a rhoddi atebiad byrbwyll ac uniongyrchol iddynt. Holwch chwi dipyn arnynt hwy yn gyntaf yn nghylch y pwngc neu yr adnod a fydd dan sylw. Peidiwch a chymeryd arnoch eich bod yn anwybodus, pe digwyddai i chwi fod felly, ond holwch y naill ar ol y llall, a mynwch wybod eu barnau hwy, ar destyn yr ymddiddan. Trwy hyny cewch chwithau amser i feddwl, a ffurfio barn ar y mater, ac yn y diwedd dywedwch ychydig o'ch barn yn gynnil ac yn anmhenderfynol ar y pwngc.' Gwnaeth y cynghor uchod i mi lawer o ddaioni. Bu ymddwyn yn ei ol, yn foddion i'm cadw rhag llawer cyfyngder.

"Nid oedd yr hen frawd parchus wedi dysgu llawer ar bobl ei ofal a'i wrandawyr mewn haelioni crefyddol. Yr oeddynt yn mhell iawn yn ol yn y 'gras hwnw.' Pan ddeuai pregethwr dieithr heibio i bregethu ar Sabboth neu noson waith, lletty cyffredin iawn a ga'i i gysgu, yn nhy hen ferch dduwiol yn ymyl capel Rhydymain. A chwech cheiniog y bregeth oedd y degwm cil dwrn' a ga'i gan, y diacon, am ei lafur, heblaw y lletty a bwyd. Un waith yn y chwarter blwyddyn y byddent yn casglu at y weinidogaeth sefydlog, ac yn talu ei gyflog i'r gweinidog. Clywais fod un o'r diaconiaid yn y Brithdir (yr hwn sydd etto yn fyw) yn cymeryd Mr. Jones o'r neilldu un tro, ar ddiwedd cyfeillach grefyddol, i dalu iddo 'arian y weinidogaeth,' am y chwarter blwyddyn, a hyny pan oedd mwy na hanner y chwarter arall wedi myned heibio, ac yn rhoddi pum' swllt yn ei law yn lled wylaidd. Wel, a ddoist ti? ebe Mr. Jones, 'bu agos i ti