Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ychydig Sabbothau cyn hyny yr oedd wedi traddodi ei bregeth ddiweddaf, yn Tabor, oddiar y geiriau,—"Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid."

Yn ei flynyddoedd diweddaf yr oedd yn hoff iawn o bregethu am brydferthwch ei Waredwr, a gogoniant y nefoedd. Yr oedd y pethau hyn wedi llanw ei feddwl gymaint fel yr oedd yn son am danynt bron yn ei holl bregethau, y blynyddoedd diweddaf. O! mor ardderchog y darluniai y Jerusalem nefol—sanctaidd ddinas ei Dduw, a'i brenin yn ei degwch. Mor hoff oedd efe o son am Iesu, fel Oen yn cael ei arwain i'r lladdfa! ac mor ardderchog y darluniai yr olwg arno yn dyfod ar gymylau'r nef, i farnu y byw a'r meirw!

Bu farw yn hollol fel y bu fyw, yn dawel o ran ei feddwl, yn hollol ddigyffro—"ni frysia yr hwn a gredo." Ehedodd ei ysbryd ymaith pan oedd o ran ei feddwl gyda'r gwaith o "ranu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd," yn llawn gwaith, ac yn ymhyfrydu ynddo. "Marw a wnelwyf o farwolaeth y cyfiawn, a bydded fy niwedd i fel ei ddiwedd yntau," ydyw dymuniad ei hen gyfaill,

ROWLAND HUGHES.

PENNOD VII.

EI FARWOLAETH A'I GLADDEDIGAETH.

Pob peth ar y ddaear yn darfod—Sabboth gyda y Methodistiaid yn Llanuwchllyn—Ei bregeth olaf yn y Brithdir a Thabor—Yn gwywo yn araf a naturiol—Teimlo ei hun yn dadfeilio—Trefn y nef yn iawn—Llythyr at y Gohebydd oddiwrth ei fab—Ei gladdedigaeth—Llwyddiant ei lafur—Catholigrwydd ei ysbryd—Parchusrwydd a chariadusrwydd ei gymmeriad—Y duwinydd cadarn a'r gweinidog da!

Diweddu y mae pob peth yn y fuchedd hon. Rhaid i ni groesi terfynau y ddaear i'r byd a ddaw, cyn y byddom yn ngafael pethau diddiwedd. Yno y mae sefydlogrwydd disigl. Daeth bywyd hir, tawel, diwyd, llafurus, a llwyddianus, hen weinidog Dolgellau i'r pen. Yma yn llafurio yn y weinidogaeth y gwelsai y rhan fwyaf o'n gweinidogion presenol yr henadur hybarch hwn; a braidd na buasem yn tybied mai yma yr oedd ef i fod yn wastadol. Cyrhaeddasai ben ei bedwaredd flwyddyn a phedwar ugain yn Mai, 1867. Ni chyrhaeddasai etto, rifedi blynyddau ei rieni, o ryw chwe' mlynedd. Ond teimlai ef ei fod yn agos i ben ei daith. Yn haf y flwyddyn a nodwyd uchod, llafuriai ar y Sabbothau fel arferol; âi i gyfarfodydd ei hen gynnulleidfa yn y dref fel cynt; bedyddiai