Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol draw yn mhell yn ein hadgof o hono, a chael golwg gyflawn ar yr holl ddyn, yr holl fywyd, a'r holl gymmeriad. Teimlem oll yn sicr fod yr olwg hono yn un gywir, ein bod yn ei weled megys ag yr oedd. Llwyddodd y bradwr Judas i dwyllo ei gyd—ddysgyblion, ac i ymddangos yr hyn nad ydoedd am dros dair blynedd. Ond ymddangos yn gyhoeddus i fyd ac eglwys am dros driugain mlynedd fel y Cristion cywir, fel y gwas da a ffyddlon,' fel y cyfaill caredig a'r gwladgarwr yn mhob dim, ac etto heb fod felly, dyma gamp na chyrhaeddodd rhagrith erioed, ac na chyrhaedda byth. Yr oeddem yn hollol sier fod ein cyfaill yr hyn y gwelem ef â llygaid ein cof a'n calon y diwrnod hwnw. Yr oedd rhywbeth a allai pob oed, a phob dosbarth o feddwl ei garu yn ei gymmeriad ef. Yr oedd yn mynwent y Brithdir brofion digonol o hyny. Dacw i chwi yr hen chwaer wledig acw sydd yn eistedd yn ymyl y clawdd, a'i gwyneb tuag ato, a'i chefn at y bedd. Y mae y corff heb ei roddi ynddo; y mae yr orymdaith angladdol etto heb gyrhaedd y fynwent. Ond acw y mae hi eisoes, i'w croesawu â ffrydiau didor o ddagrau gloywon; pa beth a ddywed hyawdledd dystaw yr olygfa hon am y marw? Dacw etto yn mhen ychydig wedi i'r dorf gyrhaedd y lle, a'r gwasanaeth angladdol ddechreu, amryw chwiorydd ieuaingc ar le dyrchafedig, i'w gweled yn wylo yn hidl—un o honynt o Ddolgellau ar ymdori gan alar, a'r olwg yn doddedig dros ben. Pa beth a ddywedai hon etto am dano? Gyferbyn a ni dacw frawd parchus o Fethodist o Ddolgellau, a'i handkerchief yn llawn gwaith yn parhaus sychu ymaith ei ddagrau. Dacw un arall gerllaw iddo o ardal Talyllyn yn ymgystadlu yn llwyddianus âg ef yn nghochni ei ruddiau a nifer ei ddagrau. Mewn cwr arall gwelem Fedyddiwr ffyddlon o gerllaw y dref mewn ymdrech parhaus i gadw ei deimladau dwysion, fel un yn tybied nad oedd gan Fedyddiwr hawl i wylo uwch ben bedd Annibynwr; ond, hawl neu beidio, wylo oedd raid y diwrnod hwnw uwch ben bedd yr hen Jones o Gefnmaelan.' Gwelem chwaer Wesleyaidd o'r gymmydogaeth, hollol rydd oddiwrth bob petrusder o'r fath, ac yn anrhegu coffadwriaeth ei hen gyfaill