Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chref ar bob pwngc. Mesurai a theimlai y tir yn ofalus cyn ymsefydlu arno, ac nid gorchwyl hawdd fuasai ei symud wedi hyny. Un caled iawn i ymdrafod âg ef mewn dadl ydoedd, ar unrhyw bwngc o athrawiaeth.

Teimlai rhai deallus wrth ei wrando yn pregethu mai nid "newyddian yn y ffydd," oedd y pregethwr; nid un wedi brys-gipio golygiadau duwinyddol pobl ereill, a rhedeg â hwynt ymaith i'r areithfa, cyn eu chwilio, eu profi, a'u deall, ac felly yn myned i'r niwl a'r tywyllwch gyda hwynt,—ond eu bod yn eistedd dan athraw deallus, un a wyddai beth oedd efe yn ei gylch, ac un a allasai roddi rheswm da dros y pethau a gynygiai efe i sylw a derbyniad ei wrandawyr. Felly os nad oedd efe yr hyn a ystyrid yn bregethwr mawr a phoblogaidd, yr oedd yn athraw a dysgawdwr da; yn was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt yn ei bryd. Os nad oedd yn meddu ar y nerth a allasai ysgwyd gwlad, fel oedd gan ambell i un o'i frodyr cyfoediol yn y weinidogaeth, yr oedd ganddo y dawn a'r cymhwysder i arwain, a choleddu, a phorthi praidd Duw.

Yr oedd ei ddelw ef i'w gweled ar yr eglwys dan ei ofal, yn y cynydd graddol a pharhaol a fu arni dan ei weinidogaeth ef. Yr oedd ei chynydd mewn rhifedi, gwybodaeth, profiad, a dylanwad, yn cyd-gerdded a'u gilydd. Cof genyf glywed y diweddar Michael Jones, Llanuwchllyn, pryd hyny, yn sylwi un tro, nad oedd ef yn adnabod un eglwys yn dwyn cymaint o ddelw ei gweinidog arni, a'r eglwys yn Nolgellau, ac ystyriai ef hyny yn anrhydedd i'r gweinidog a'r eglwys.

Gwastadrwydd ac arafwch tyner oedd ei nodwedd arbenigol fel pregethwr, fel y sylwyd, cyffelyb i'r ych yn tynu ei gwys yn bwyllog, hyd nes y delo gerllaw y dalar, ac yno yn rhoi plwe arni i'w chael i'r pen, rhoddai yntau ysbonc arni tua'r diwedd, er cael ei aradr allan o'r tir; ond syrthiai rhyw ysbrydiaeth wresoglawn arno yntau ambell waith; clywais ei hen gymmydog a'i gydlafurwr yn y weinidogaeth, y diweddar Barch. H. Llwyd, o Dowyn, yn son am rai oedfaon hynod a gafodd; ac yn enwedig am un mewn cyfar-