Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfryw ddynion o nemawr bwys, ond iddynt hwy eu hunain; gwyr pawb deallus yn mha ddosbarth i'w rhestru. Nid yw yn ormod i ni ddywedyd, fod o'r pwys mwyaf i Gristionogion yn gyffredinol, ac i bregethwyr yr efengyl yn arbenigol, ymdrechu cyrhaeddyd syniadau Ysgrythyrol a theg ar bob canghen o Dduwinyddiaeth. Ynddi hi y dylai dynion ymgartrefu. I'w deall y dylent alw allan ymadferthoedd eu heneidiau. Ynfydrwydd o'r mwyaf yw ei hesgeuluso.

Gwyr y gogleddwyr, a'r deheuwyr, hefyd, yn bur dda, fod y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones wedi astudio duwinyddiaeth yn fanwl iawn. Ceid llawer o bregethwyr mwy hyawdl a dylanwadol nag ef, a chyfarfyddid a llawer oeddynt yn well ysgolheigion nag ef; gwelid ambell un yn eangach ei wybodaeth gyffredinol, a llawer yn fwy barddonol a dyrchafedig eu syniadau na'n hen gyfaill hybarch o Gefnmaelan; ond yr ydym yn dyweyd yn ddibetrus, nad oedd heb o'i frodyr yn yr oes ddiweddaf, ac nad oes yr un o honynt yn yr oes hon ychwaith, yn rhagori arno fel duwinydd. Safai yn ddiau yn y rhes flaenaf o'n duwinyddion Cymreig. Yr oedd yn bwyllog i gael gafael ar y gwirionedd; yr oedd llygaid ei feddwl yn graff a threiddlym i wahaniaethu y gwir oddiwrth y gau; yr oedd egwyddorion sylfaenol duwinyddiaeth wedi cael eu hastudio ganddo yn fanwl a thrwyadl; a chanfyddai gyda chywirdeb mawr, pa syniadau oeddynt mewn cysondeb i'r egwyddorion gwreiddiol hyny; ac o'r ochr arall, pa syniadau oeddynt mewn gwrthdarawiad iddynt, ac yn milwrio yn eu herbyn.

Cafodd Mr. Jones gryn fantais i ddyfod yn dduwinydd cyson a manwl. Nid oedd nemawr o lyfrau ond rhai duwinyddol yn yr ardal, lle y magwyd ef. Duwinyddiaeth oedd. prif astudiaeth ei gymmydogion. Yr oedd gwr, a dwy o ferched yn y Ty Mawr, gerllaw i'r Deildref Uchaf, yn dduwinyddion campus, ac yn cydfyned âg ef i'r Hen Gapel, ac yn cyd-ddyfod adref bob Sabboth. Yr oedd gweinidog y gynulleidfa, y Dr. Lewis, yn dduwinydd cryf a manwl, yn bregethwr duwinyddol, ac yn ysgrifenydd duwinyddol galluog. Yr